Arolwg Sgiliau Cyflogwyr 2024



Cwestiynau cyffredin



Beth yw nodau’r prosiect?
Nod y prosiect yw casglu gwybodaeth am y sgiliau y mae cyflogwyr eu hangen, y sgiliau y maent yn brin ohonynt a’r hyfforddiant y maent yn ei gynnig. Mae’r arolwg yn amcanu i helpu’r llywodraeth a sefydliadau eraill i helpu cyflogwyr, drwy ddeall yn well beth yw eu sgiliau a hefyd eu hanghenion o ran hyfforddiant a chyflogaeth.

Pam oes angen i chi siarad â mi?
Cafodd eich sefydliad chi ei ddewis ar hap i wneud yn siŵr ein bod yn cael darlun sy’n cynrychioli’r holl fusnesau (mawr a bach) yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Bydd eich cydweithrediad yn sicrhau bod y sylwadau a roddir yn cynrychioli pob cyflogwr yn eich diwydiant.

Sut cefais i fy newis?
Mae eich sefydliad wedi cael ei ddewis ar hap o gyfuniad o Gronfeydd Data Market Location (sy’n cyfuno data 118 a Thomson) a Chofrestr Busnes Ryng-adrannol yr ONS.

Beth fydd raid i mi ei wneud os byddaf yn cymryd rhan?
Os byddwch yn cymryd rhan byddwch yn cael cyfweliad ffôn gyda holwr o IFF Research. Ar gyfartaledd, mae cyfweliadau’n para tua 20 munud. Ond, gallai hyd y cyfweliad amrywio yn dibynnu ar yr atebion a rowch. Bydd y cyfweliad yn digwydd ar amser sy’n gyfleus i chi.

Pam na allwch chi siarad gyda fy mhrif swyddfa?
Mae’r arolwg yn gofyn am bynciau sy’n ymwneud yn benodol â’r safle er mwyn deall sut mae dulliau’n amrywio yn ddaearyddol. Os byddem ni’n siarad â’ch prif swyddfa ni fyddem yn cael darlun cyflawn o’r problemau ar lefel leol.

Am beth ydych chi’n casglu gwybodaeth?
Rydym yn casglu gwybodaeth am feysydd yn cynnwys swyddi gwag, swyddi gwag sy’n anodd eu llenwi, sgiliau’r gweithlu presennol, a pha hyfforddiant y mae cyflogwyr yn ei gynnig.

Sut mae fy sefydliad yn elwa o hyn?
Mae’r arolwg yn rhoi cyfle i chi gyfrannu at y gwaith ymchwil, a fydd yn helpu cynllunwyr i ddatblygu polisïau i ateb anghenion sgiliau cyflogwyr.

A fydd fy atebion yn gyfrinachol?
Bydd eich atebion yn cael eu trin yn gwbl gyfrinachol o dan God Ymddygiad y Gymdeithas Ymchwil i’r Farchnad ac yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data (2018) a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Gallwch weld siarter gwybodaeth bersonol yr Adran Addysg yma.

O dan y gyfraith diogelu data, mae gennych yr hawl i dderbyn copi o’ch data, newid eich data, neu dynnu allan o’r gwaith ymchwil unrhyw bryd. Anfonwch e-bost i SkillsSurvey2024@iffresearch.com os hoffech gysylltu â ni am eich data.

Sut fyddwch chi’n sicrhau bod fy atebion yn gyfrinachol?
Bydd yr holl ddata a ddarparwch i IFF Research tra byddwch yn cymryd rhan yn yr arolwg yn mynd drwy broses o ffugenwi. Mae deddfwriaeth GDPR y DU yn diffinio ffugenwi fel prosesu data personol mewn ffordd sy’n golygu na all y data personol gael ei gysylltu â phwnc data penodol heb ddefnyddio gwybodaeth ychwanegol, ar yr amod bod gwybodaeth ychwanegol o’r fath yn cael ei gadw ar wahân ac yn atebol i fesurau technegol a sefydliadol er mwyn sicrhau nad yw’r data personol yn gysylltiedig â pherson naturiol a enwyd neu y gellid ei enwi. Mewn geiriau eraill, mae hyn yn golygu y bydd eich enw a’ch manylion cysylltu’n cael eu tynnu gynted ag y bo modd o’r data a ddarparwch a’r data a fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith dadansoddi.

Sut ydw i’n gwybod bod y cwmni ymchwilio sy’n cysylltu â mi yn gwmni dilys?
Mae IFF Research yn asiantaeth ymchwil i’r farchnad fawr sydd wedi hen sefydlu. Os hoffech wneud yn siŵr bod IFF Research yn gwmni dilys, gallwch alw’r Gymdeithas Ymchwil i’r Farchnad am ddim ar 0800 975 9596.

A fyddaf i’n gallu cael gafael ar ganlyniadau’r arolwg?
Byddwch. Bydd canlyniadau’r arolwg ar gael yn gyhoeddus ar wefan GOV.UK yn 2025. Os byddwch yn cymryd rhan yn yr arolwg, bydd yn gofyn a hoffech chi dderbyn adroddiad sy’n crynhoi’r canfyddiadau.

Ymhle allaf i weld canlyniadau’r astudiaeth flaenorol?
Mae canlyniadau’r astudiaeth flaenorol yn 2022 ar wefan GOV.UK: https://www.gov.uk/government/statistics/employer-skills-survey-2022.

I weld canlyniadau 2022 o’r data a gasglwyd gyda chyflogwyr yn yr Alban yn benodol, gwelwch wefan Llywodraeth yr Alban: https://www.gov.scot/publications/uk-employer-skills-survey-2022-scotland-report/

I weld canlyniadau 2022 o’r data a gasglwyd gyda chyflogwyr yng Nghymru’n benodol, gwelwch wefan Llywodraeth Cymru: Arolwg Sgiliau Cyflogwyr: 2022 (adroddiad Cymru) | LLYW.CYMRU

I weld canlyniadau 2022 o ddata a gasglwyd gyda chyflogwyr yng Ngogledd Iwerddon yn benodol, gwelwch wefan Adran yr Economi Gogledd Iwerddon: Employer Skills Survey 2022 | Department for the Economy (economy-ni.gov.uk)

Pam ydych chi’n cyfweld pobl yn ystod cyfnod yr etholiad?
Mae data’r Arolwg Sgiliau Cyflogwyr yn ystadegau swyddogol. Felly, mae caniatâd i waith maes barhau yn y cyfnod cyn yr etholiad yn unol ag arweiniad y gwasanaeth sifil.