Arolwg Sgiliau Cyflogwyr 2024



Croeso i’r ficrowefan ar gyfer Arolwg Sgiliau Cyflogwyr y DU 2024 gan yr Adran Addysg



Beth yw Arolwg Sgiliau Cyflogwyr y DU?

Mae’r Arolwg Sgiliau Cyflogwyr wedi ei seilio ar fwy na 20,000 o gyfweliadau ffôn gyda chyflogwyr yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon a dyma un o’r arolygon cyflogwyr mwyaf yn y byd.

Mae’r arolwg yn hanfodol i waith yr Adran Addysg a’u partneriaid mewn llywodraeth leol ac yn y llywodraeth genedlaethol. Mae’n casglu gwybodaeth am yr heriau o ran sgiliau y mae cyflogwyr yn eu hwynebu yn eu gweithlu ac wrth benodi, natur unrhyw hyfforddiant a ddarperir, ac ymwybyddiaeth a chyfranogaeth mewn amrywiol fentrau a rhaglenni.

Arolwg Sgiliau Cyflogwyr 2022

Cynhaliwyd yr Arolwg Sgiliau Cyflogwyr diwethaf yn 2022 a gallwch weld canlyniadau’r arolwg hwn ar wefan GOV.UK: Employer skills survey: 2022 - GOV.UK (www.gov.uk).

I weld canlyniadau 2022 o’r data a gasglwyd gyda chyflogwyr yn yr Alban yn benodol, gwelwch wefan Llywodraeth yr Alban: UK Employer Skills Survey 2022 – Scotland Report - gov.scot (www.gov.scot).

I weld canlyniadau 2022 o’r data a gasglwyd gyda chyflogwyr yng Nghymru’n benodol, gwelwch wefan Llywodraeth Cymru: Arolwg Sgiliau Cyflogwyr: 2022 (adroddiad Cymru) | LLYW.CYMRU

I weld canlyniadau 2022 o ddata a gasglwyd gyda chyflogwyr yng Ngogledd Iwerddon yn benodol, gwelwch wefan Adran yr Economi Gogledd Iwerddon: Employer Skills Survey 2022 | Department for the Economy (economy-ni.gov.uk)

Cymryd rhan yn 2024

Mae’r gwaith maes ar gyfer yr arolwg yn cael ei wneud rhwng mis Mai a mis Rhagfyr 2024 gan IFF Research ar ran yr Adran Addysg, Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru a’r Adran Economi yng Ngogledd Iwerddon.

Mae llwyddiant yr arolwg yn ddibynnol ar barodrwydd cyflogwyr i gymryd rhan. Os cânt eu dewis, gall cyflogwyr ddewis amser sy’n addas iddyn nhw gael eu cyfweld. Os ydych yn gyfranogwr neu’n ystyried cymryd rhan, gallwch weld rhagor o wybodaeth ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin.

Bydd canlyniadau’r arolwg ar gael yn gyhoeddus ar wefan GOV.UK yn 2025. Os byddwch yn cymryd rhan yn yr arolwg bydd yn gofyn a hoffech chi dderbyn adroddiad sy’n crynhoi canfyddiadau’r arolwg.

Mae data’r Arolwg Sgiliau Cyflogwyr yn ystadegau swyddogol. Felly, caniateir i’r gwaith maes barhau yn y cyfnod cyn yr etholiad (yn unol ag arweiniad y gwasanaeth sifil).

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu angen cysylltu â ni am yr arolwg, anfonwch e-bost atom yn SkillsSurvey2024@iffresearch.com.