Arolwg Sgiliau Cyflogwyr 2024



Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Arolwg Sgiliau Cyflogwyr y DU 2022



Pwy ydym ni
Gwneir y gwaith hwn gan y tîm Dadansoddi Polisi Sgiliau sy’n rhan o’r Adran Addysg. At ddibenion deddfwriaeth diogelu data, yr Adran Addysg yw’r rheolydd data ar gyfer y data personol sy’n cael ei brosesu yn rhan o’r arolwg.


Rolau
At ddibenion y gwaith hwn, o dan ddiffiniadau’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), dyma rôl pob un sy’n cymryd rhan:
  • Y Rheolydd Data: Yr Adran Addysg (DfE)
  • Prosesydd Data: IFF Research
  • Pynciau Data: Cyflogwyr ledled y DU

Sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth
Bydd y prosiect yn casglu enw a chyfeiriad e-bost y person sydd wedi eu henwi o fewn y sefydliad y credir mai nhw sydd yn y sefyllfa orau i ateb yr arolwg. Trwy gasglu’r enw, gallwn weinyddu’r gwaith sy’n dilyn apwyntiadau yn effeithlon, a bydd y cyfeiriad e-bost yn gadael i ni anfon gwybodaeth yn uniongyrchol at yr ymatebwr mewn perthynas â’r astudiaeth. Ni fydd enwau a chyfeiriadau e-bost a gesglir yn cael eu storio yn yr un gronfa ddata â’r ymatebion i’r arolwg.

Efallai fod eich cyflogwr wedi rhannu eich manylion cysylltu sy’n berthnasol i’ch gwaith (cyfeiriad e-bost a rhif ffôn gwaith) gydag IFF Research o dan y telerau sydd wedi eu nodi mewn Hysbysiad Rhannu Data, fel y gall IFF Research roi dolen i chi, mewn e-bost, i rannu’r rhif gorau ar gyfer cysylltu â chi er mwyn cwblhau’r arolwg dros y ffôn.

Bydd IFF yn derbyn eich data personol o’ch atebion i’r arolwg a bydd yn prosesu a storio’r data a ddarparwch yn ystod yr ymchwil hwn yn ddiogel ar ran yr Adran Addysg. Bydd eich ymatebion i’r arolwg yn cael eu cadw’n gwbl gyfrinachol, yn unol â Chod Ymddygiad y Gymdeithas Ymchwil i’r Farchnad a GDPR y DU. Bydd canfyddiadau’r arolwg yn cael eu cadw’n ddienw cyn cael eu hanfon i’r Adran Addysg gan IFF. Ni fydd yr Adran Addysg yn gallu adnabod unrhyw sefydliad heblaw eich bod yn rhoi eich caniatâd i gysylltu data.

Bydd y data a ddarparwch yn ystod eich cyfranogaeth yn yr ymchwil yn helpu’r Adran Addysg i gasglu gwybodaeth am yr heriau sgiliau y mae cyflogwyr yn eu hwynebu o fewn eu gweithluoedd ar y pryd ac yn nhermau dod â gweithwyr medrus newydd i mewn, lefelau a natur y buddsoddiad mewn hyfforddiant a’r berthynas rhwng heriau sgiliau, gweithgaredd hyfforddi a strategaeth busnes. Mae hefyd yn cynnwys pynciau fel recriwtio, darparu lleoliadau gwaith a phrentisiaethau.

Mae cyfranogaeth yn yr ymchwil yn gwbl wirfoddol a gall y cyfranogwyr dynnu allan unrhyw bryd. Bydd y data a gesglir yn cael ei storio’n ddiogel, a bydd pob ymateb i’r arolygon yn cael eu dadansoddi’n ddi-enw (ni fydd unrhyw enwau ynghlwm â nhw) ac ni fydd unrhyw unigolion neu sefydliadau’n cael eu henwi mewn unrhyw adroddiad. Dyma’r unig bryd y rhennir unrhyw fanylion cysylltu personol gyda’r rheolydd data, yr Adran Addysg, os byddwch yn cydsynio i rywun ailgysylltu â chi ynglŷn â gwneud ymchwil pellach. I gael rhagor o wybodaeth am IFF Research a’i Arolygon, dilynwch y ddolen hon: http://www.iffresearch.com/iff-research-gdpr-policy/.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am arferion y gwaith yma, cysylltwch â thîm IFF Research ar yr e-bost yn: SkillsSurvey2024@iffresearch.com.

Natur y data personol amdanoch y byddwn yn ei ddefnyddio
Bydd IFF Research yn defnyddio manylion cysylltu sy’n berthnasol i’r gwaith (cyfeiriadau e-bost/rhifau ffôn y gwaith), fel y nodir uchod, i roi gwybodaeth yn uniongyrchol i chi yng nghyd-destun yr astudiaeth drwy’r e-bost.

Dyma’r categorïau o ddata personol y byddwn yn eu defnyddio ar gyfer y prosiect hwn:
  • eich enw llawn,
  • eich rhif ffôn,
  • cyfeiriad e-bost.
Pam mae ein defnydd o’ch data personol yn gyfreithlon
Er mwyn i’n defnydd ni o’ch data personol chi fod yn gyfreithlon, mae’n rhaid i ni gyflawni un (neu fwy) o’r amodau yn y ddeddfwriaeth diogelu data. At ddibenion y prosiect hwn, dyma’r amodau perthnasol:
  • Erthygl 6(1)(a) eich bod wedi rhoi eich caniatâd

I bwy fyddwn ni’n sicrhau bod eich data personol ar gael
Weithiau mae angen i’r Adran Addysg sicrhau bod data personol ar gael i sefydliadau eraill. Gallai’r rhain gynnwys partneriaid ar gontract (yr ydym wedi eu cyflogi i brosesu eich data personol ar ein rhan) a/neu sefydliadau eraill (y mae angen i ni rannu eich data personol â nhw at ddibenion penodol).

Pan fydd angen i’r Adran Addysg rannu eich data personol gydag eraill, rydym yn sicrhau bod y rhannu data hwn yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth diogelu data. At ddibenion y prosiect hwn, bydd eich data’n cael ei brosesu gan IFF Research ar ran yr Adran Addysg.

Ni fydd IFF Research yn rhannu eich data personol (h.y. enw a manylion cysylltu) gydag unrhyw un heblaw’r Adran Addysg neu ei phartneriaid sy’n gwneud unrhyw ymchwil dilynol, pan fyddwch wedi rhoi eich caniatad i rywun gysylltu â chi i wneud ymchwil dilynol o fewn y ddwy flynedd nesaf. Byddent yn gofyn i chi a ydych yn cydsynio y caiff rywun gysylltu â chi i wneud gwaith ymchwil dilynol ar ddiwedd yr arolwg.

Bydd yr holl ddata a ddarparwch i IFF Research tra byddwch yn cymryd rhan yn yr arolwg yn mynd drwy broses o ffugenwi. Mae deddfwriaeth GDPR y DU yn diffinio ffugenwi fel prosesu data personol mewn ffordd sy’n golygu na all y data personol gael ei gysylltu bellach â phwnc data penodol heb ddefnyddio gwybodaeth ychwanegol, ar yr amod bod gwybodaeth ychwanegol o’r fath yn cael ei gadw ar wahân ac yn atebol i fesurau technegol a sefydliadol er mwyn sicrhau nad yw’r data personol yn gysylltiedig â pherson naturiol a enwyd neu y gellid ei enwi. Mewn geiriau eraill, mae hyn yn golygu y bydd eich enw a’ch manylion cysylltu’n cael eu tynnu gynted ag y bo modd o’r data a ddarparwch ac o ddata a fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith dadansoddi. Bydd hwn yn cael ei storio ar wahân ac yn ddiogel, mewn ffeil wahanol i’ch atebion i’r arolwg, a bydd yn cael ei ddinistrio 12 mis ar ôl diwedd y gwaith maes (Ionawr 2026) heblaw eich bod yn rhoi caniatâd iddynt i ail gysylltu â chi ar gyfer rhagor o waith ymchwil.

Wrth rannu data gyda’r Adran Addysg ac mewn adroddiadau wedi eu cyhoeddi, bydd IFF Research yn sicrhau, drwy broses ffugenwi, na fydd unrhyw ddata personol y gellir adnabod pobl drwyddo yn cael ei rannu.


Am faint y byddwn ni’n cadw eich data personol
Bydd IFF Research yn cadw data personol dim ond cyhyd ag y bydd ei angen at ddiben(ion) y darn hwn o waith, ac wedi hynny bydd yn cael ei ddinistrio’n ddiogel. Bydd hyn 12 mis ar ôl cwblhau gwaith maes yr arolwg (Ionawr 2026), ar gyfer y rhai nad ydynt yn cytuno i rywun ailgysylltu â nhw. Bydd data personol unrhyw gyfranogwyr yn yr arolwg sy’n cwblhau’r arolwg ac yn nodi eu bod yn fodlon i rywun ailgysylltu â nhw yn cael ei storio’n ddiogel. Dim ond at ddibenion ailgysylltu â nhw i wneud ymchwil perthnasol yn y ddwy flynedd ddilynol y bydd y data hwn yn cael ei ddefnyddio.

Nodwch hyn: o dan Erthygl 5(1)(b) GDPR y DU ac mewn cydweithrediad â’r amodau prosesu data perthnasol, gellir cadw data personol am gyfnodau hirach o amser pan fyddent yn cael eu prosesu at ddibenion archifo dim ond er budd y cyhoedd, ymchwil hanesyddol neu wyddonol, a dibenion ystadegol.


Eich hawliau diogelu data
Mae gennych yr hawl
  • i ofyn am fynediad at y data hwn
  • i addasu unrhyw wybodaeth anghywir neu wallus
  • i atal neu wrthwynebu prosesu eich data
  • i ddinistrio’r data hwn
  • i symud, copïo neu drosglwyddo eich data
Os byddwch angen cysylltu ag IFF ynglŷn ag unrhyw rai o’r pethau uchod, gwnewch hynny drwy’r cyfeiriad e-bost hwn: SkillsSurvey2024@iffresearch.com.

Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau diogelu data yn ymddangos ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth ar: https://ico.org.uk/.

Mae gennych yr hawl i godi unrhyw bryderon gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) drwy eu gwefan ar https://ico.org.uk/concerns/.

Mae rhagor o wybodaeth am y ffordd y mae’r Adran Addysg (y rheolydd data) yn trin gwybodaeth bersonol wedi ei chyhoeddi yma: https://www.gov.uk/government/organisations/department-for-education/about/personal-information-charter.


Tynnu caniatâd yn ôl
Pan fyddwn yn prosesu eich data personol gyda’ch caniatâd chi, mae gennych yr hawl i dynnu’r caniatâd hwnnw yn ei ôl. Os byddwch yn newid eich meddwl, neu os ydych yn anhapus gyda’n defnydd o’ch data personol, gadewch i ni wybod drwy gysylltu â SkillsSurvey2024@iffresearch.com.


Diweddarwyd ddiwethaf
Efallai y bydd angen i ni ddiweddaru’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn achlysurol, felly rydym yn argymell eich bod yn ail edrych ar y wybodaeth hon o bryd i’w gilydd. Diweddarwyd y fersiwn hwn ddiwethaf ar 07/05/2024.


Gwybodaeth Gysylltu
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â sut y bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio, cysylltwch â ni ar https://www.gov.uk/contact-dfe a rhowch Employer Skills Survey 2024 fel cyfeirnod. I gysylltu â’r Swyddog Diogelu Data (DPO) cysylltwch â ni drwy gov.uk a nodi bod eich neges at sylw’r ‘DPO’.