Arolwg Buddsoddiad mewn Hyfforddiant 2024



Cwestiynau Cyffredin



Beth yw amcanion y prosiect?

Mae’r Arolwg Buddsoddiad mewn Hyfforddiant yn casglu gwybodaeth fanwl am wariant cyflogwyr ar hyfforddiant. I gael rhagor o wybodaeth am Arolwg Sgiliau’r Cyflogwr 2024, cliciwch yma


Sut gefais i fy newis?

Rydym yn siarad gyda chyflogwyr a gymerodd ran yn Arolwg Sgiliau Cyflogwyr 2024, a roddodd hyfforddiant dros y 12 mis blaenorol ac a oedd yn hapus i ni gysylltu â nhw am yr arolwg dilynol yma.


Beth sy’n rhaid ei wneud wrth gyfranogi?

Os byddwch yn cyfranogi byddwn yn cael sgwrs fer gyda chi i ddechrau ac yn anfon taflen ddata atoch i’w llenwi. Yna byddwn yn eich ffonio yn ôl i fynd drwy’r wybodaeth ar y daflen ddata, (PEIDIWCH â dychwelyd hon at IFF os gwelwch yn dda) a rhai cwestiynau ychwanegol. Mae’r cyfweliad yn cymryd llawer llai o amser i’w gwblhau na’r cyfweliad gwreiddiol ar gyfer yr Arolwg Sgiliau Cyflogwyr gwreiddiol, ar gyfartaledd mae’r cyfweliadau’n cymryd oddeutu 8 munud.


Pam oes angen i mi lenwi’r daflen ddata?

Diben y daflen ddata yw gwneud y broses hon yn haws i chi drwy adael i chi gasglu gwybodaeth yn eich amser eich hun.


Beth ddylwn i ei wneud os byddaf yn colli fy nhaflen ddata?

Os ydych wedi colli eich taflen ddata, rhowch wybod i ni pan fyddwn yn eich ffonio’n ôl a gallwn ei hail anfon atoch ar unwaith.


Pam na allwch chi siarad gyda fy mhrif swyddfa?

Mae’r arolwg yn gofyn am hyfforddiant ar lefel benodol i safle er mwyn deall sut mae agweddau’n amrywio’n ddaearyddol. Ni fyddwn yn cael darlun llawn o’r buddsoddiad mewn hyfforddiant ar lefel leol o siarad gyda’ch prif swyddfa.


Sut mae hyn o fudd i’m sefydliad?

Mae’r arolwg yn rhoi cyfle i chi gyfrannu at waith ymchwil a fydd yn helpu cynllunwyr i ddatblygu polisïau i ymdrin ag anghenion hyfforddi cyflogwyr. Bydd y canlyniadau ar gael i’w gweld yn 2025 ar wefan gov.uk.


A fydd fy ymatebion yn gyfrinachol?

Bydd - bydd eich atebion yn cael eu trin yn hollol gyfrinachol o dan God Ymarfer y Gymdeithas Ymchwil i’r Farchnad. Ni fydd y data’n cael ei gysylltu ag enw eich cwmni heb i chi roi caniatâd o flaen llaw. Os ydych yn caniatáu i’ch data gael ei gysylltu bydd y data’n ddi-enw ac yn cael ei ddefnyddio i bwrpasau ystadegol yn unig.


Pwy yw IFF Research?

Mae IFF Research yn asiantaeth ymchwil i’r farchnad annibynnol hirsefydlog. Os hoffech sicrhau bod IFF Research yn ddilys, gallwch alw’r Gymdeithas Ymchwil i’r Farchnad yn rhad ac am ddim ar 0800 975 9596.


A fyddaf yn cael gweld canlyniadau’r arolwg?

Byddwch. Bydd canlyniadau’r arolwg ar gael i’r cyhoedd ar wefan gov.uk yn 2025.


Ymhle allwn i weld canlyniadau’r astudiaeth flaenorol?

Cafwyd yr astudiaeth Buddsoddiad mewn Hyfforddiant ddiwethaf yn 2022; gallwch weld crynodeb o’r canlyniadau yma: https://assets.publishing.service.gov.uk/media/65855506fc07f3000d8d46bd/Employer_skills_survey_2022_research_report.pdf